Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/10/2024 i'w hateb ar 16/10/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i wella gwasanaethau bws i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y cysylltiad rheilffordd newydd rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi ei wneud o lwyddiant newidiadau i amserlenni bysiau Traws Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yna lwybrau diogel i ddisgyblion cynradd ac uwchradd gyrraedd yr ysgol?
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch deintyddiaeth yng Ngogledd Cymru?
Beth yw blaenoriaethau'r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leddfu problemau teithio sy’n cael eu hachosi gan waith ffordd ar y rhwydwaith cefnffyrdd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am drawsnewid rheilffordd Treherbert yn Rhondda?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus drwy gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy?
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y Cabinet ynghylch diogelu hawliau gweithwyr yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu diweddariad ar ffordd osgoi Llandeilo?
Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau bod y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer newid dulliau teithio?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yr un mor hygyrch i bawb ar Ynys Môn?
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â nifer y rhai sy’n hawlio credyd pensiwn?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am lefelau tlodi plant yng Nghymru?
Beth yw asesiad yr Ysgrifennydd Cabinet o'r cynnydd a wnaed ar y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol?
Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o bobl o grwpiau sydd yn draddodiadol wedi eu tangynrychioli fel y gymuned LHDT+ i gymryd rhan mewn glweidyddiaeth?
Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i liniaru’r effaith ar drigolion yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu taliadau tanwydd y gaeaf?
Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru i sicrhau cyfle cyfartal a chydraddoldeb mynediad ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant dros weddill tymor y Senedd hon?
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch gwneud trafnidiaeth yn fwy hygyrch i bobl anabl?
Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet a Llywodraeth y DU i gydlynu cefnogaeth ar ôl ymadael â’r carchar ar gyfer carcharorion sy’n cael eu rhyddhau’n gynnar?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector gwirfoddol ym Mhreseli Sir Benfro?
Comisiwn y Senedd
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i ddangos cefnogaeth y Senedd i bobl Wcráin?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am drefniadau gwaith staff y Comisiwn?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amcangyfrif o gostau ehangu Siambr y Senedd i greu lle ar gyfer Aelodau ychwanegol?
Sut y mae'r Comisiwn yn hyrwyddo hanes a diwylliant Cymru i ymwelwyr ag ystad y Senedd?
Pa drafodaethau y mae’r Comisiwn wedi’u cael â’r Bwrdd Taliadau am opsiynau gwahanol ar gyfer llety preswyl i Aelodau o'r Senedd yng Nghaerdydd?