Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/10/2019 i'w hateb ar 16/10/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Pa ddyraniadau cyllideb ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu rhoi i'r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi pobl sydd â diagnosis o nam meddyliol difrifol fel rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth baratoi cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynglyn a sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau fod perchnogion ail gartrefi yn talu treth gyngor?
Pa mor effeithiol y mae rhyddhad ardrethi busnes wedi bod o ran helpu busnesau yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gasglu trethi datganoledig?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gefnogi pobl 16-18 oed wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i drechu tlodi ym Merthyr Tudful a Rhymni wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried amcanion polisi ehangach wrth bennu cyllidebau rhaglenni i'r dyfodol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol o ran darparu dyraniad cyllideb ychwanegol i ariannu awdurdodau lleol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth gyllideb Llywodraeth Cymru?
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Werthu Cymru i'r Byd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Islwyn fel cyrchfan i dwristiaid?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod treftadaeth ddiwydiannol yng Nghaerffili?
I ba raddau y mae'r Gweinidog wedi ymgysylltu â sefydliadau yn Ogwr ynghylch blaenoriaethau masnach ryngwladol Llywodraeth Cymru?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu'r Gymraeg mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg yn Sir Fynwy?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Pa ran y mae Chwaraeon Cymru yn ei chwarae o ran cyflawni amcanion y Gronfa Iach ac Engïol?
Sut y bydd barn y gymuned Gwrdaidd sy'n byw yng Nghymru yn llywio'r gwaith o ddatblygu strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen Cymru o blaid Affrica?
Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn perthynas ag aneddiadau Israelaidd yn y Lan Orllewinol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu'r diwydiant twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru?
Comisiwn y Cynulliad
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am drefniadau pensiwn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru?
A wnaiff y Comisiwn egluro sut y mae'r arian a ddyrennir i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng nghyllideb 2019-20 yn cael ei ddyrannu?
Pa ddefnydd sydd wedi'i gofnodi o bwyntiau gwefru cerbydau trydan y Cynulliad?
Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i gyflawni ei rwymedigaethau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd?