Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/09/2020 i'w hateb ar 16/09/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

1
OQ55521 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i ail-gyflwyno eryrod i Eryri?

 
2
OQ55504 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag archfarchnadoedd mawr ynghylch effaith Covid-19 ar y sector bwyd yng Nghymru?

 
3
OQ55508 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cartrefi mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd yn cael offer addas i atal llifogydd?

 
4
OQ55485 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau i atal llifogydd yng Ngorllewin Clwyd?

 
5
OQ55480 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermio yng Nghymru am y deuddeg mis nesaf?

 
6
OQ55487 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector amaethyddol yn y canolbarth?

 
7
OQ55515 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gywirdeb mapiau llifogydd Cymru?

 
8
OQ55502 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu asesu llwyddiant y rhaglen Grantiau Datblygu Gwledig?

 
9
OQ55483 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i'r sector bwyd a ffermio yng Nghymru pe na bai Llywodraeth y DU yn gallu sicrhau cytundeb masnach yr UE?

 
10
OQ55498 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Llywodraeth Cymru o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014?

 
11
OQ55481 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar amddiffyn y bodau tinwen?

 
12
OQ55495 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi'r economi wledig wrth inni ailgodi'n gryfach yn dilyn Covid-19?

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

1
OQ55517 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

Pa strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chymhwyso i benderfyniadau cynllunio canol tref a dinas fel bod ei thargedau lleihau allyriadau carbon yn cael eu hystyried?

 
2
OQ55488 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith y Gweithgor Amaethyddiaeth Ddwys Cynllunio Gwlad a Thref?

 
3
OQ55512 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae cyfyngiadau Covid-19 yn debygol o'i chael ar dargedau adeiladu tai fforddiadwy?

 
4
OQ55496 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb llywodraeth leol yng ngoleuni Covid-19?

 
5
OQ55489 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd ar incwm isel i wneud gwelliannau i'w heiddo?

 
6
OQ55513 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod gan awdurdodau lleol y modd i orfodi cyfyngiadau symud lleol?

 
7
OQ55506 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i'w galwad am dystiolaeth ynghylch taliadau ystadau am ddatblygiadau tai?

 
8
OQ55507 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoliadau sy'n ymwneud â thai amlfeddiannaeth yng Nghymru?

 
9
OQ55479 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn grymuso cynghorau tref yn y gogledd-ddwyrain?

 
10
OQ55490 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i drigolion Glanfa Fictoria yng Nghaerdydd, lle mae'r fflatiau wedi methu profion tân ar ôl Grenfell?

 
11
OQ55518 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r awdurdod lleol yn sir Benfro ynghylch darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol?

 
12
OQ55499 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trefniadau llywodraethu ar gyfer llywodraeth leol yn ystod y pandemig coronafeirws?