Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/07/2025 i'w hateb ar 16/07/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

1
OQ63029 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd Rhentu Doeth Cymru?

 
2
OQ63035 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar raglen adeiladu tai y Llywodraeth ar gyfer tymor y Senedd hon?

 
3
OQ63019 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i wella diogelwch cynghorwyr?

 
4
OQ63046 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

Faint o bobl sydd wedi elwa ar y cynllun Cymorth i Aros yng Nghymru ers iddo gael ei sefydlu?

 
5
OQ63049 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adeiladu tai yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
6
OQ63018 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer 2025-26?

 
7
OQ63044 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i effaith pwysau ariannol ar wasanaethau llywodraeth leol?

 
8
OQ63016 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am dai cydweithredol yng Nghymru?

 
9
OQ63039 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhoi argymhellion y tasglu tai fforddiadwy ar waith?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OQ63013 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion ym Mhreseli Sir Benfro ar gyfer y deuddeg mis nesaf?

 
2
OQ63032 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod digon o ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Gorllewin De Cymru?

 
3
OQ63047 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyrhaeddiad disgyblion?

 
4
OQ63041 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau y Llywodraeth i adeiladu ysgolion Cymraeg newydd yn Nwyrain De Cymru?

 
5
OQ63036 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu'r camau nesaf yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynghylch corff cenedlaethol a fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid?

 
6
OQ63033 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

Pa oruchwyliaeth sydd gan Lywodraeth Cymru o gydymffurfiaeth ysgolion, gan gynnwys ysgolion ffydd, o ran meini prawf derbyn sy'n rhoi blaenoriaeth i leoedd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal?

 
7
OQ63030 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio a chadw athrawon?

 
8
OQ63048 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar fuddsoddi mewn addysg yng Nghasnewydd?

 
9
OQ63014 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/07/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth addysg bellach yn Abertawe?