Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/07/2024 i'w hateb ar 16/07/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ61473 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

Sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu taclo’r argyfwng tai yng Nghymru?

 
2
OQ61488 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lefelau diffyg maeth yng Nghymru?

 
3
OQ61478 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y cynghorwyr trais rhywiol annibynnol sydd ar gael yng ngogledd Cymru?

 
4
OQ61482 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

Pa fecanweithiau a fwriada’r Prif Weinidog eu rhoi mewn lle i sicrhau goruchwyliaeth annibynnol o’r cod gweinidogol?

 
5
OQ61483 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth newydd y DU ynglŷn â hybu twf economaidd?

 
6
OQ61485 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth newydd y DU ar drafnidiaeth integredig ar gyfer Dwyrain Casnewydd?

 
7
OQ61458 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yng ngwasanaethau iechyd Cymru?

 
8
OQ61484 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau ailgylchu ar draws Dwyrain De Cymru?

 
9
OQ61467 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod technoleg deallusrwydd artiffisial o fudd i weithwyr ac i'r economi?

 
10
OQ61486 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd pobl sydd â phrofiad byw o ddementia yn rhan o werthuso llwyddiant y gwasanaeth gofal a chymorth cenedlaethol arfaethedig?

 
11
OQ61464 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

Sut y mae'r Llywodraeth yn gwella ac yn hyrwyddo diogelwch tân?

 
12
OQ61487 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/07/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio athrawon?