Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/06/2026 i'w hateb ar 16/06/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer addysg yn Sir Fynwy Torfaen?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gwasanaethau meddygon teulu yng Nghlwyd?
Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr adolygiad sydd ar ddod o drefniadau etholiadol y Senedd yn cryfhau hyder y cyhoedd yn nemocratiaeth Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau lleol yng Ngŵyr Abertawe?
Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o risgiau posibl y cynllun Cenedl Noddfa i ddiogelwch y cyhoedd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y gwasanaeth iechyd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo dull trawslywodraethol o wella canlyniadau i bobl niwroamrywiol?
Pa sicrwydd wnaiff y Prif Weinidog ei roi i gymunedau gwledig y bydd sylw gwirioneddol yn cael ei roi i bryderon lleol pan fydd prosiectau ynni gwynt ar raddfa fawr yn cael eu hystyried?
Sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod datblygu economaidd yn cefnogi ardaloedd gwledig a threfol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydlyniant cymunedol a meithrin ymdeimlad cyffredin o berthyn ledled Cymru?
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau polisi Cenedl Noddfa ar fudo anghyfreithlon i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau halogiad metel trwm sy'n gysylltiedig â thomenni glo yn afonydd Cymru?
Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud i ddatganoli cyllid rheilffyrdd?
A wnaiff y Gweinidog Cabinet gadarnhau pryd oedd y tro diwethaf y cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad sylfaenol o strwythur, gallu ac effeithiolrwydd gwasanaeth sifil Cymru, ac a oes ganddi unrhyw gynlluniau i gomisiynu adolygiad o'r fath?
Pa gamau mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sefydlu comisiwn cenedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid am oblygiadau ariannol datganoli plismona?
Manylion Buddiant yr Aelod
Undeb rhyddid i lefaru
Sut bydd Llywodraeth Cymru yn dangos ei hymrwymiad i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru, cyn ceisio unrhyw bwerau pellach?
Pa gamau mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i fwrw ymlaen â'r broses o ddatganoli cyfiawnder, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?
Sut bydd y Gweinidog Cabinet yn gweithio gyda chydweithwyr yn y cabinet i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru?
Beth yw safbwynt y Gweinidog Cabinet ar ddatganoli plismona, yng ngoleuni diwygiadau plismona yn Lloegr?
Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog Cabinet i wella argaeledd ystadegau sy'n benodol i Gymru?
A wnaiff y Gweinidog Cabinet amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer diwygio cyfansoddiadol yn ystod y Senedd hon?
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddatganoli pwerau dros adnoddau naturiol i Gymru?