Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/06/2021 i'w hateb ar 16/06/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer datblygiadau tai yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog nodi ymagwedd Llywodraeth Cymru at bolisi cynllunio yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu deddf aer glân i Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu'r argymhellion a restrwyd yn ei adroddiad ar y llifogydd yn 2020?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar reoli ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi landlordiaid cyfrifol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o achosion newid yn yr hinsawdd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer partïon i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol 2021?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru tuag at wireddu'r economi gylchol yn Islwyn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod digon o dai fforddiadwy a chymdeithasol yn cael eu darparu ledled Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar reoleiddio eiddo gosod tymor byr?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol i gynorthwyo disgyblion sydd wedi colli amser addysgu wyneb yn wyneb oherwydd cyfyngiadau COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o addysg feddygol yng ngogledd Cymru? Trosglwyddwyd i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu plant am newid yn yr hinsawdd mewn ysgolion?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl myfyrwyr yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y trafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynglŷn â sicrhau’r hawl i lywodraethwyr ysgol gwblhau gwiriadau DBS ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol ag addewid ei ragflaenydd ar 17 Mawrth 2021?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn addysg yn Ne Clwyd drwy raglen ysgolion yr 21ain ganrif?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ehangu cyfleoedd ar gyfer addysg awyr agored yn ystod tymor y Senedd hon?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod addysg cyfrwng Gymraeg yn hygyrch i bob plentyn a chymuned, yn arbennig yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau hawl pob plentyn yng Nghymru i gael mynediad at addysg cyfrwng Gymraeg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella safonau addysg ym Mreseli Sir Benfro?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant a phobl ifanc byddar mewn addysg yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen ysgolion yr 21ain ganrif yng Ngorllewin De Cymru?