Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/05/2023 i'w hateb ar 16/05/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r heriau y mae'r diwydiant adeiladu yn Islwyn yn eu hwynebu?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith premiymau'r dreth gyngor i berchnogion ail gartrefi yn Sir Ddinbych?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgysylltu â'r gymuned leol ynghylch sut y caiff Fferm Gilestone ei defnyddio yn y dyfodol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y ddarpariaeth o randiroedd ledled Cymru?
Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i hyrwyddo llwybrau twristiaeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru o ran datblygu cynlluniau datblygu lleol?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi twf busnesau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith dosbarth cymdeithasol ar gyfleoedd bywyd yng Nghymru?
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o sut mae chwyddiant wedi effeithio ar y rhaglen adeiladu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r seilwaith trafnidiaeth yn Sir Fynwy?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau pellach o ran yr adolygiad manylach o Fesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) 2008?