Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/04/2024 i'w hateb ar 16/04/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd y Bil Seilwaith (Cymru) yn effeithio ar Sir Drefaldwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y grant hanfodion ysgol?
Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod trigolion Gorllewin De Cymru yn derbyn gofal iechyd prydlon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach yng Ngogledd Caerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei ddull o ymdrin â datblygu economaidd ym Mlaenau Gwent?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn brwydro yn erbyn tlodi cefn gwlad yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn system addysg Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu busnesau i ailgylchu?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu cymunedau yn Nwyrain De Cymru rhag peryglon tomenni glo?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â chlefyd coronaidd y galon?