Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/03/2022 i'w hateb ar 16/03/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

1
OQ57781 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru?

 
2
OQ57805 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo aelwydydd gyda'r cynnydd parhaus mewn costau byw?

 
3
OQ57787 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar blant?

 
4
OQ57799 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at system les i Gymru?

 
5
OQ57779 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch sefydlu'r ganolfan breswyl gyntaf i fenywod yng Nghymru?

 
6
OQ57783 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gynigion Llywodraeth y DU i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998?

 
7
OQ57793 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch mesurau i gefnogi myfyrwyr anabl i gael mynediad at addysg uwch?

 
8
OQ57801 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa bolisïau y mae Llywodraeth Cymru yn eu dilyn i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw?

 
9
OQ57798 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa fesurau diogelu sydd ar waith i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn myfyrwyr rhyngwladol wrth iddynt ymgeisio am swyddi yng Nghymru?

 
10
OQ57804 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa gymorth sydd ar gael i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd?

 
11
OQ57776 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o faint o staff cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael eu cyflogi ar lai na'r cyflog byw go iawn?

 
12
OQ57797 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa drafodaeth y mae'r Gweinidog wedi'i chael gyda Swyddfa'r Post ynghylch sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad digonol at wasanaethau?

Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

1
OQ57785 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau arfaethedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ar setliad datganoli Cymru?

 
2
OQ57802 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch unrhyw gymorth y gall ei roi i ymchwiliad y Llys Troseddol Rhyngwladol i droseddau rhyfel y tybir bod lluoedd Rwsia wedi'u cyflawni yn Wcráin?

 
3
OQ57789 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw trigolion Cymru yn wynebu rhwystrau i gyfiawnder?

 
4
OQ57784 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Chymdeithas y Cyfreithwyr ar y cynnig gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i gau'r gronfa indemniad cyfreithwyr?

 
5
OQ57796 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ai Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU sydd â'r pŵer i gyhoeddi canllawiau gweithio gartref mewn perthynas â COVID-19 yng Nghymru?

 
6
OQ57782 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ei phwerau mewn perthynas ag ehangu pwll glo Aberpergwm?

Comisiwn y Senedd

1
OQ57803 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i sicrhau bod y Senedd yn hygyrch i bobl ddall a phobl â golwg rhannol?

 
2
OQ57786 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fioamrywiaeth ar ystâd y Senedd?

 
3
OQ57794 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa gefnogaeth iechyd meddwl y mae'r Comisiwn yn ei darparu i'w staff?

 
4
OQ57792 (w) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad ar sut mae'n annog cyfranogiad y cyhoedd ym mhwyllgorau'r Senedd?

 
5
OQ57807 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2022

Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith y sancsiynau economaidd ar Rwsia ar gronfeydd pensiwn staff ac Aelodau?