Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/03/2022 i'w hateb ar 16/03/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo aelwydydd gyda'r cynnydd parhaus mewn costau byw?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar blant?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at system les i Gymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch sefydlu'r ganolfan breswyl gyntaf i fenywod yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gynigion Llywodraeth y DU i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch mesurau i gefnogi myfyrwyr anabl i gael mynediad at addysg uwch?
Pa bolisïau y mae Llywodraeth Cymru yn eu dilyn i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw?
Pa fesurau diogelu sydd ar waith i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn myfyrwyr rhyngwladol wrth iddynt ymgeisio am swyddi yng Nghymru?
Pa gymorth sydd ar gael i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o faint o staff cyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael eu cyflogi ar lai na'r cyflog byw go iawn?
Pa drafodaeth y mae'r Gweinidog wedi'i chael gyda Swyddfa'r Post ynghylch sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad digonol at wasanaethau?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau arfaethedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ar setliad datganoli Cymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch unrhyw gymorth y gall ei roi i ymchwiliad y Llys Troseddol Rhyngwladol i droseddau rhyfel y tybir bod lluoedd Rwsia wedi'u cyflawni yn Wcráin?
Pa sgyrsiau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw trigolion Cymru yn wynebu rhwystrau i gyfiawnder?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Chymdeithas y Cyfreithwyr ar y cynnig gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i gau'r gronfa indemniad cyfreithwyr?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ai Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU sydd â'r pŵer i gyhoeddi canllawiau gweithio gartref mewn perthynas â COVID-19 yng Nghymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ei phwerau mewn perthynas ag ehangu pwll glo Aberpergwm?
Comisiwn y Senedd
Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i sicrhau bod y Senedd yn hygyrch i bobl ddall a phobl â golwg rhannol?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fioamrywiaeth ar ystâd y Senedd?
Pa gefnogaeth iechyd meddwl y mae'r Comisiwn yn ei darparu i'w staff?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad ar sut mae'n annog cyfranogiad y cyhoedd ym mhwyllgorau'r Senedd?
Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith y sancsiynau economaidd ar Rwsia ar gronfeydd pensiwn staff ac Aelodau?