Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/02/2022 i'w hateb ar 16/02/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu busnesau ym Mharc Bryn Cegin, Bangor?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o faint o arian a ddaw i Gymru drwy'r gronfa ffyniant gyffredin yn y flwyddyn ariannol nesaf?
Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau fod polisi Llywodraeth Cymru ar yr economi yn cynnwys strategaeth i daclo'r argyfwng costau byw?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc i gael eu cyflogi?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau newydd yng Nghwm Cynon?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith treth twristiaeth ar economi Gogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i fusnesau bach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth ariannol a roddwyd i fusnesau yn ystod y gyfres ddiweddaraf o gyfyngiadau COVID-19?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi datblygiad yr economi werdd yng Nghanol De Cymru?
Pa gymorth ariannol tymor canolig i hirdymor y gall busnesau lletygarwch yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru dros y 18 mis nesaf?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod trigolion Dyffryn Clwyd yn cael y manteision mwyaf posibl o'r gronfa ffyniant gyffredin?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi economïau canol y ddinas i addasu i arferion gweithio o bell?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ofal meddygol arbenigol yn y gymuned?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y dyfodol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau ambiwlans yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofynion gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth iechyd yng nghanolbarth Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ganfyddiadau adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon ar wasanaethau fasgwlaidd yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo rhagoriaeth yn GIG Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad cleifion at wasanaethau deintyddol brys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru?
Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o argaeledd gwasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd ysgol feddygol Gogledd Cymru ym Mangor?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu'r gwasanaeth fferylliaeth gymunedol clinigol yng Nghymru?