Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/01/2024 i'w hateb ar 16/01/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar Orllewin Casnewydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol yn Rhondda Cynon Taf?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y polisi terfyn diofyn 20mya ar bobl yn Nyffryn Clwyd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod yr argyfwng costau byw?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sgandal Horizon?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd penderfyniadau a wneir gan awdurdodau lleol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba mor hir mae pobl yn aros am driniaeth yn y gwasanaeth iechyd?
Sut mae'r Prif Weinidog yn mynd ati i gyflwyno Senedd gryfach sy'n gallu dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn well?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r angen i adolygu'r terfyn cyflymder 20mya diofyn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal y defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi yng Nghymru gan gwmnïau sy'n contractio gyda chyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau deintyddol cyffredinol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adfer gwasanaethau bws rheolaidd a dibynadwy i gymunedau ynysig sy'n dlawd o ran trafnidiaeth yn etholaeth Ogwr?