Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/01/2019 i'w hateb ar 16/01/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hybu economi trefi gwledig?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi polisi datblygu economaidd rhanbarthol i gynorthwyo cymunedau yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl dinasoedd o fewn datblygu economaidd yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ag awdurdodau lleol ynghylch gwella gwasanaethau bysiau lleol i gwm Afan?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu perthynas â chwmnïau mawr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn anelu i wella'r seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau i'r A55?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr oedi parhaus o ran cyhoeddi canlyniad y broses arfarnu cam dau ar gyfer gorsafoedd rheilffordd newydd a ddechreuodd yn ystod haf 2017?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn seilwaith digidol yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu economi Cymru yn 2019?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad economaidd yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pa sectorau diwydiannol sydd â gwendidau sy'n gyfrifol am werth ychwanegol gros isel Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith tasglu'r cymoedd?
Cwnsler Cyffredinol
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith unrhyw fath o Brexit ar economi gogledd-ddwyrain Cymru?
Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael gyda Llywodraeth Iwerddon ynglŷn â Brexit?
Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi ar gyfer Cymru o ganlyniad i ymadawiad y DU o'r UE?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu menywod a lleiafrifoedd rhag troseddau casineb yn dilyn Brexit?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch cynnal y gallu i drosglwyddo cymwysterau proffesiynol ar gyfer staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd, yn enwedig nyrsys, os bydd Brexit yn digwydd?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch paratoi busnesau yng Nghymru wrth baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr hyn a ddaw ynlle cronfeydd strwythurol yr UE yn y Rhondda?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am ddiogelu porthladd Caergybi yn wyneb y posiblrwydd o Brexit heb gytundeb?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i warchod hawliau pobl Cymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut y bydd y newidiadau arfaethedig i reolau mewnfudo a amlinellir yn y cytundeb arfaethedig ar ymadael â'r UE yn effeithio ar Gymru?
Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o effaith Brexit ar economi Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â chymorth i fusnesau yng ngogledd Cymru yn dilyn Brexit?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y bydd Brexit yn effeithio ar reolau cymorth gwladwriaethol presennol?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru ei wneud i wella hygyrchedd deddfwriaeth ddatganoledig i'r cyhoedd?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y ffioedd a godir ar ddinasyddion yr UE sy'n gwneud cais i gynllun setliad yr UE i gofrestru ar gyfer statws sefydlog a statws cyn-sefydlog?