Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/12/2021 i'w hateb ar 15/12/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i alluogi Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i fuddsoddi'n weithredol mewn cynhyrchu ynni ac effeithlonrwydd ynni wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun buddsoddi i arbed?
Pa gymorth ariannol y bydd y Gweinidog yn ei roi i awdurdodau lleol i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau dros fisoedd y gaeaf?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi caffael Llywodraeth Cymru yn y sector cyhoeddus?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl clercod cynghorau cymuned?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ddarparu cyfarpar diogelu personol wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ddarparu gwasanaethau cam-drin domestig wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi croesawu byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel ffordd o sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n fwy effeithlon?
Pa gymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ystod y pandemig?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ariannu mentrau i adfywio canol trefi yn y dyfodol wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i gefnogi awdurdodau lleol i gynyddu bioamrywiaeth wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd?
A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o effeithiolrwydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran ysgogi gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â ffermwyr ynghylch sefyllfaoedd posibl lle ceir achosion o TB?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo bwyd a diod o Ogledd Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd hela trywydd ar ei dir ar les anifeiliaid?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i arallgyfeirio ar ffermydd?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lles anifeiliaid?
Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella lles anifeiliaid mewn lladd-dai?
Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi ailgartrefu cŵn?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu addewid Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar y defnydd o gewyll ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio?
Pa fesurau y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar waith i sicrhau bod cadwyni cyflenwi amaethyddol yn eco-gyfeillgar ac yn gynaliadwy?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag anffurfio anghyfreithlon fel tocio clustiau cŵn mewn lleoliadau domestig?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i leihau effaith llygredd amaethyddol ar ansawdd afonydd a dyfrffyrdd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen dileu TB Llywodraeth Cymru?