Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/12/2020 i'w hateb ar 15/12/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ56070 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lefel y gefnogaeth ar gyfer ei chyfyngiadau coronafeirws?

 
2
OQ56051 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu'r cyngor y mae wedi'i gael ynghylch mynd i'r afael â phandemig y coronafeirws?

 
3
OQ56032 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o'r capasiti sydd ar gael i ddarparu brechiadau COVID-19?

 
4
OQ56034 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo treftadaeth canolbarth Cymru?

 
5
OQ56071 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

Pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i fusnesau yng Nghanol De Cymru yn ystod pandemig COVID-19?

 
6
OQ56047 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y coronafeirws ar economi Dwyrain De Cymru?

 
7
OQ56065 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau Ynys Môn yn ystod y pandemig?

 
8
OQ56069 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran rheoli achosion COVID-19 yng Nghaerffili?

 
9
OQ56044 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i chwaraeon proffesiynol yng Nghymru?

 
10
OQ56039 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio cardiau brechu COVID-19?

 
11
OQ56073 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau Brexit i weithgynhyrchu yng Nghymru?

 
12
OQ56067 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

Faint o ddisgyblion yng Ngorllewin De Cymru sydd wedi cael eu hanfon adref i hunanynysu fwy nag unwaith ers mis Medi?

Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

1
OQ56035 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i lochesi i fenywod yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19?

 
2
OQ56038 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cydlyniant cymunedol yng Ngogledd Cymru?

 
3
OQ56030 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

Sut y mae'r Dirprwy Weinidog yn ymgysylltu â phobl ifanc yng Nghymru mewn perthynas â materion cydraddoldeb a hawliau dynol?

 
4
OQ56024 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r trydydd sector yng Nghymru, mewn ymateb i bandemig COVID-19?

 
5
OQ56052 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fynd i'r afael â thrais domestig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
6
OQ56060 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ffactorau a allai rwystro'r berthynas rhwng Cymru ac Ewrop yn 2021?

 
7
OQ56059 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2020

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector gwirfoddol yng Nghymru dros gyfnod y Nadolig?