Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/11/2023 i'w hateb ar 15/11/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch mynd i'r afael â bwlio gwrth-LHDTC+ mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog ystyried gwneud cais i fod yn rhan o fynegai ‘Rainbow Europe’ yr International Lesbian and Gay Association er mwyn mesur cynnydd yn erbyn y nod o fod yn wlad LHDT-gyfeillgar?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi banciau bwyd ym Mlaenau Gwent?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith digartrefedd ar nod Llywodraeth Cymru o hyrwyddo ffyniant a threchu tlodi?
Beth wnaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi Wythnos Cyflog Byw?
Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru?
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r heddlu a'r gwasanaethau tân i sicrhau amseroedd ymateb digonol?
Beth yw asesiad presennol Llywodraeth Cymru o gydlyniant cymunedol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y strategaeth tlodi plant newydd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o rôl darpariaeth blynyddoedd cynnar o ran mynd i'r afael â thlodi plant?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobl fyddar sydd yn defnyddio Iaith Arwyddo Prydain i gyfathrebu yn cael eu cefnogi pan maent yn dod i gysylltiad gyda gwasanaethau cyhoeddus fel y gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith bil tybaco a fêps arfaethedig Llywodraeth y DU ar gymwyseddau datganoledig yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith Araith y Brenin ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar fwrw ymlaen i ddiddymu Deddf Crwydraeth 1824?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch goblygiadau diwygio'r Senedd ar gyfer y setliad datganoli?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli'r system gyfiawnder i Gymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau i ddefnyddwyr sy'n agored i niwed o ran dyfarniad yr Uchel Lys yn achos R Shane Williams v Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Mehefin 2019 ynghylch cau canolfan hamdden Pontllanfraith?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith y bil dedfrydu newydd a gyhoeddwyd yn Araith y Brenin ar lysoedd yng Nghymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y rhaglen diogelwch tomenni glo?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau Araith y Brenin ar gyfer y setliad datganoli?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) Llywodraeth y DU ar gymwyseddau datganoledig yng Nghymru?
Comisiwn y Senedd
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y penderfyniad i wahardd GB News o systemau teledu'r Senedd?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ddarparu gwasanaethau TGCh ar ystâd y Senedd?
Pa fesurau y mae Comisiwn y Senedd yn eu cymryd i helpu holl staff y Senedd yn ystod yr argyfwng costau byw?
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i wella cyfathrebu â rhanddeiliaid allanol mewn ieithoedd heblaw'r Gymraeg a'r Saesneg?