Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/10/2025 i'w hateb ar 15/10/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

1
OQ63258 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl sydd mewn ôl-ddyledion treth gyngor?

 
2
OQ63244 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg?

 
3
OQ63253 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau y bydd holl gynlluniau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cael eu hariannu'n llawn erbyn diwedd y Senedd hon?

 
4
OQ63242 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar fentrau Llywodraeth Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach?

 
5
OQ63259 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Sut y mae'r Llywodraeth yn annog y sector cyhoeddus i gaffael gan fusnesau Cymru?

 
6
OQ63247 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Pa ystyriaeth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i roi i gynyddu'r gefnogaeth ariannol i hosbisau wrth baratoi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27?

 
7
OQ63237 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gasglu'r dreth trafodiadau tir?

 
8
OQ63256 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cynnal gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod darpariaeth iaith Gymraeg yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn y system gofal iechyd?

 
9
OQ63254 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu dysgwyr Cymraeg i deimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio'r iaith mewn bywyd bob dydd?

 
10
OQ63248 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau fod y premiwm treth cyngor ail gartrefi yn cael ei ddefnyddio i greu cartrefi fforddiadwy?

 
11
OQ63263 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn sicrhau bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf economaidd ledled Cymru?

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

1
OQ63243 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith amgylcheddol ac ecolegol datblygu peilonau ledled Cymru?

 
2
OQ63236 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar weithredu argymhellion adroddiad Llifogydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, gyhoeddwyd yn Hydref 2024?

 
3
OQ63261 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y grŵp gorchwyl a gorffen fydd yn ymateb i argymhellion yr adolygiad o'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol?

 
4
OQ63240 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth C ymru yn eu cymryd i atal llygredd amaethyddol rhag gwenwyno afonydd?

 
5
OQ63251 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu datganiad ar drwyddedu rhyddhau adar hela?

 
6
OQ63245 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermydd a ffermwyr ar draws Gorllewin De Cymru gydag arallgyfeirio ?

 
7
OQ63257 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Pa gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i gynorthwyo preswylwyr a allai wynebu llifogydd dro ar ôl tro y gaeaf hwn, yn enwedig y rhai sydd heb yswiriant neu mewn tai cymdeithasol?

 
8
OQ63249 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu symud ymlaen ag argymhelliad y Comisiwn Dŵr Annibynnol i sefydlu rheoleiddiwr dŵr annibynnol i Gymru?

 
9
OQ63235 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar lefelau llygredd aer yn Abertawe?

 
10
OQ63238 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r 41ain Cyngres ac Expo Cogyddion y Byd 2026?

 
11
OQ63262 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyflawni'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy?