Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/10/2024 i'w hateb ar 15/10/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion Gorllewin De Cymru sydd wedi cael eu heffeithio gan y diswyddiadau yng ngwaith dur Tata?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i ddatblygu adeiladau cyhoeddus cynaliadwy?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddiogelwch tomenni glo yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i adfer cynefinoedd morol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau ei defnydd o laddwyr chwyn glyffosad ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru neu a reolir ganddi?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar leihau gwastraff bwyd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU, cyn cyllideb nesaf Llywodraeth y DU, ynghylch seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd a llesiant diffoddwyr tân?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y canllawiau sydd yn cael eu rhoi i awdurdodau lleol wrth baratoi cynlluniau gofodol?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r ffordd y mae byrddau iechyd yn cael eu llywodraethu?