Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/09/2026 i'w hateb ar 15/09/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ64441 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

Pa fudd ddaw i drigolion Abertawe yn sgil sefydlu cwmni ynni cyhoeddus cymunedol i Gymru?

 
2
OQ64469 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi busnesau lleol yn ardal Bangor?

 
3
OQ64476 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o fforddiadwyedd ffioedd dysgu yng Nghymru?

 
4
OQ64456 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar amseroedd aros am lawdriniaeth cataractau yn Sir Gaerfyrddin?

 
5
OQ64467 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog nodi amserlen ar gyfer cyflwyno mesurau newydd i amddiffyn rhentwyr yn well?

 
6
OQ64450 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y canlyniadau PISA diweddar a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru?

 
7
OQ64443 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Port Talbot yn cael cyfran deg o Gronfa Ddur y DU?

 
8
OQ64431 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ailgychwyn triniaeth ffrwythlondeb yn Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru?

 
9
OQ64457 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar sicrhau cyllid teg i Gymru?

 
10
OQ64435 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd llywodraethu clinigol a diogelu cleifion o fewn GIG Cymru?

 
11
OQ64475 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

Pa gymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ysgolion o ran cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf mewn grym?

 
12
OQ64471 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r trydydd sector?