Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/09/2021 i'w hateb ar 15/09/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am awdurdodau lleol yn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â darparu gwasanaethau i blant?
Pa ystyriaeth y gwnaiff Llywodraeth Cymru ei rhoi i'r effaith ar Gymru o gyllid ychwanegol posibl y GIG a gofal cymdeithasol yn Lloegr wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrennir i gynllunio datblygu strategol ac economaidd yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa asesiad o'r goblygiadau treth i Gymru y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bolisi porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith y dreth trafodion tir?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi treth incwm Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog egluro pwrpas yr ymgynghoriad cyfredol ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiwygiadau i ffiniau llywodraeth leol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau atebolrwydd swyddogion llywodraeth leol i gynghorwyr etholedig?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu cyllid yn y dyfodol i Gyngor Sir Powys?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael i wella trefniadau etholiadol i'w gwneud yn haws i bobl gymryd rhan mewn etholiadau llywodraeth leol?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd hon?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith amgylcheddol unedau dofednod dwys yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i reoleiddio bridio cŵn yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd am drwsio ffyrdd yng ngogledd Cymru yr effeithwyd arnynt gan lifogydd eleni?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dwyn anifeiliaid anwes ar les anifeiliaid yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi am gyfrifoldeb cyfredol Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu parc busnes Bryn Cegin, Bangor?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ffermio âr a da byw cymysg ar raddfa fach a chanolig sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd yng nghymoedd de Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro?
Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu cynnig i gryfhau'r ffordd y caiff anifeiliaid eu hamddiffyn yng Nghymru yn ystod tymor presennol y Senedd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesedd yn y diwydiant ffermio yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru llygredd amaethyddol yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch effaith polisïau Llywodraeth Cymru ar iechyd meddwl ffermwyr?