Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/09/2020 i'w hateb ar 15/09/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ystod pandemig COVID-19?
Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r risgiau i gyllid cyhoeddus o ganlyniad i'r pandemig COVID-19?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i bobl awtistig yn ystod y pandemig coronafeirws?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y strategaeth profi, olrhain a diogelu ar gyfer coronafeirws?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfyngiadau symud lleol a gyflwynwyd yng Nghaerffili?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailfandio'r dreth gyngor yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu capasiti profi COVID-19 yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch statws cyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am allu'r GIG yng Ngogledd Cymru i drin afiechydon a chyflyrau nad ydynt yn rhai COVID-19?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch y goblygiadau i Gymru o'r trafodaethau ynghylch ymadael â'r Undeb Ewropeaidd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lywodraethiant prosiectau cyhoeddus a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ôl-groniadau prosesu a chapasiti profi sy'n effeithio ar etholwyr sydd wedi cael profion antigenau neu wrthgyrff COVID-19 yng Nghymru?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ryddid i addoli yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu Adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010?
Sut y bydd polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru fwy cyfartal yn esblygu yn dilyn y profiad COVID-19?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau diogelwch cymunedol yn Islwyn?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymorth i grwpiau gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r gymuned fyddar?
Faint o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru sydd â digon o fand eang er mwyn darparu modd o ddysgu yn y cartref i blant pe bai rhagor o gyfyngiadau symud yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol?