Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/07/2025 i'w hateb ar 15/07/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gwasanaeth cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau bod y digwyddiad yn Wrecsam eleni yn gynaliadwy yn amgylcheddol?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer galluogi pob dinesydd i gael diet iach a chytbwys?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trefi yng ngogledd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod swyddi yn y sector cyhoeddus yn hygyrch ar draws holl ranbarthau Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â diffyg niferoedd yn y gweithlu anestheteg?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer triniaeth ar y GIG i drigolion yn y Rhondda?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i leihau llygredd afonydd a môr yn Abertawe?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â thargedau i leihau marwolaethau babanod?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi ymdrechion i gael pobl ifanc i mewn i fyd gwaith yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith i ddiogelu asedau cymunedol?
Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch yr amserlen weithredu ar gyfer Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ynghylch gweithredu deddfwriaeth Senedd y DU yng Nghymru lle nad oedd y Senedd wedi rhoi cydsyniad deddfwriaethol?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y camau y gall eu cymryd i sicrhau bod arferion caffael yn cynnwys ystyried triniaeth foesegol o bensiynwyr wrth ddyfarnu contractau cyhoeddus?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i fynd i'r afael â diffeithdiroedd cymorth cyfreithiol yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol nodi enghreifftiau penodol o sut mae ei rôl fel Gweinidog Cyflawni wedi arwain at ganlyniadau mesuradwy o ran cyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth?