Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/07/2020 i'w hateb ar 15/07/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailagor y sector busnesau bach yng Nghymru yn raddol yn dilyn y cyfyngiadau symud oherwydd Covid-19?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i chwaraeon proffesiynol?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o bwysigrwydd gorsafoedd radio lleol yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Gyfamod y Lluoedd Arfog?
Pa asesiad sydd wedi'i wneud o sut y mae'r cyfyngiadau yn y gwasanaeth iechyd, a roddwyd ar waith i atal y pandemig, wedi effeithio ar y rhai y mae angen y GIG arnynt am resymau nad ydynt yn ymwneud â Covid-19?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i gynghorau tref a chymuned yn ystod y pandemig?
A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i newid ei pholisïau profi, olrhain a diogelu yng ngoleuni tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ynghylch trosglwyddo'r feirws SARS-CoV-2?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi rhyddid crefydd yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddioddefwyr cam-drin domestig y mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn tynnu eu plant oddi arnynt?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r swm ychwanegol o arian y bydd Cymru yn ei gael o ganlyniad i ddatganiad yr haf Canghellor y DU?
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i'r M4 o amgylch ardal Twneli Brynglas yn y dyfodol?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i brentisiaid a'r rhai sy'n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith, yn sgil yr effaith y mae Covid-19 wedi'i chael ar eu lleoliadau?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yng Ngogledd Cymru i ailagor o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch staff ar drafnidiaeth gyhoeddus?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu metro Bae Abertawe a chymoedd y gorllewin?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i liniaru tagfeydd ar ffyrdd a rheilffyrdd ym Mhencoed?
Yng ngoleuni Covid-19, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith canllawiau ymbellhau cymdeithasol ar fusnesau yng Nghanol De Cymru?
Pa fesurau sy'n cael eu cymryd i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i economi Cymoedd y De yn sgil diweddariad economaidd yr haf Canghellor y DU?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cysylltiadau trafnidiaeth ag ysbyty newydd Ysbyty Prifysgol Grange pan fydd yn agor ym mis Tachwedd 2020?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon ynghylch cynnydd mewn teithiau traffig ar y ffyrdd wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu codi?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau yn y sector lletygarwch yng Nghymru?
Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gydag aelodau o Lywodraeth y DU ynghylch Brexit ers i'w deitl gael ei newid ar 4 Mawrth 2020?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r gwaith o adfer trefi Cymru yn sgil effaith Covid-19?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i Ailgodi'n Gryfach yn ystod ac ar ôl Covid-19?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o nifer y swyddi a busnesau a gaiff eu colli yng Nghymru oherwydd yr argyfwng coronafeirws?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda Gweinidogion y DU ynghylch Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Cydbwyllgor y Gweinidogion ar negodiadau Ewropeaidd?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y bydd pobl a nwyddau yn symud yn effeithlon ym mhorthladdoedd Cymru unwaith y daw'r cyfnod pontio Brexit i ben?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu effaith masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, ar Gymru?