Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/06/2022 i'w hateb ar 15/06/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi

1
OQ58177 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru?

 
2
OQ58166 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o sut y bydd Cymru'n cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol cwpan pêl-droed y byd yn effeithio ar economi Cymru?

 
3
OQ58178 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur llwyddiant Cwmni Egino?

 
4
OQ58182 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Blaenau'r Cymoedd?

 
5
OQ58185 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau?

 
6
OQ58163 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Ofod Genedlaethol Llywodraeth Cymru?

 
7
OQ58161 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn sir Benfro dros y 12 mis nesaf?

 
8
OQ58169 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda rhanddeiliaid ynghylch economi'r nos yng Ngorllewin De Cymru?

 
9
OQ58176 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru?

 
10
OQ58164 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae sioeau amaethyddol yn ei chael ar economi Cymru?

 
11
OQ58172 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi digwyddiadau mawr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
12
OQ58187 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am nifer y swyddi sydd wedi'u creu ym Mharc Bryn Cegin, Bangor?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OQ58162 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?

 
2
OQ58157 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prinder gweithwyr cymorth gofal yng Nghymru?

 
3
OQ58184 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn ne-ddwyrain Cymru?

 
4
OQ58168 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o ddeintyddion yng nghanolbarth Cymru?

 
5
OQ58159 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru yn cael eu darparu?

 
6
OQ58186 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am yr hyfforddiant meddygol sydd ar gael yn ysgol feddygol gogledd Cymru?

 
7
OQ58179 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles meddyliol ar draws Dyffryn Clwyd?

 
8
OQ58171 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

Pryd y bydd bwrdd y rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn dechrau gweithio ar gynllun gweithredu?

 
9
OQ58181 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

Pa gamau sydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sydd angen llawdriniaeth feddygol frys yn ei dderbyn mewn amser rhesymol?

 
10
OQ58165 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod menywod yn cael mynediad cyfartal at ddiagnosis a chymorth ar gyfer cyflyrau niwroamrywiol?

 
11
OQ58167 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cerbydau ymateb cyflym yn parhau i fod ar gael mewn ardaloedd gwledig?

 
12
OQ58173 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl sy'n byw gydag endometriosis yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?