Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/06/2021 i'w hateb ar 15/06/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau cynnar y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer yng Nghymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltedd trafnidiaeth ledled Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gallu i recriwtio staff iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau'r dreth gyngor yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o rôl llywodraeth leol yn ystod pandemig COVID-19?
Beth yw amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn ystod y pandemig?
Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau mynediad cyfartal at chwaraeon er mwyn annog ffyrdd egnïol o fyw yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu parc cenedlaethol newydd yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru yn y dyfodol?