Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/05/2024 i'w hateb ar 15/05/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Pa ystyriaeth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei rhoi i ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran adolygu fframwaith cyllidol Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch symiau canlyniadol Barnett i Gymru o ganlyniad i ariannu gofal plant yn Lloegr?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ynghylch cyllid ychwanegol ar gyfer masnachfreinio bysiau?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau ei pholisïau caffael?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith i ddiwygio'r system ardrethi annomestig?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r cyllid y mae Cymru wedi'i golli o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn gwrthod dosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig?
Pa gamau mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella gallu'r Senedd i ddylanwadu ar y broses o lunio cyllideb y Llywodraeth?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei pholisïau trethi ar y sector twristiaeth?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ynghylch darparu cyllid gan Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun ar gyfer perchnogion tai preifat nad ydynt yn gallu fforddio gwaith atgyweirio sy'n gysylltiedig â dod o hyd i RAAC yn eu cartrefi?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gael gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg am effaith cynlluniau i adeiladu gorsafoedd nwy yn Arfon ar dargedau newid hinsawdd y Llywodraeth?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cynllun dychwelyd ernes Llywodraeth Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet egluro'r rhesymeg dros y gwahaniaethau mewn cyfraddau talu ar gyfer gwahanol fathau o dir o dan gynllun cymorth organig 2024?
Beth yw blaenoriaethau amgylcheddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd prosiectau bioamrywiaeth yng ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella diogelwch dŵr ac atal boddi?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddefnyddio'r brechlyn TB buchol i wartheg?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet nodi ei flaenoriaethau ar gyfer gwella lles anifeiliaid?
Faint o flaenoriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei rhoi i wella iechyd pridd yn ei ddull o gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei thargedau lleihau allyriadau?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu llesiant anifeiliaid anwes domestig?