Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/02/2023 i'w hateb ar 15/02/2023

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

1
OQ59146 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith posib o gynyddu'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm yng Nghymru?

 
2
OQ59129 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â chymorth Llywodraeth Cymru i leihau'r pwysau ariannol ar wasanaethau bysiau rheolaidd?

 
3
OQ59135 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith cyllideb ddrafft y Llywodraeth ar ddyfodol parciau cenedlaethol?

 
4
OQ59143 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi dyfodol llyfrgelloedd cyhoeddus yn Islwyn?

 
5
OQ59139 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi ac ariannu parhad cydwasanaethau?

 
6
OQ59141 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023–24 ar awdurdodau lleol?

 
7
OQ59132 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllideb Cyngor Sir Ynys Môn?

 
8
OQ59131 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch cyllid i awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfleoedd prentisiaethau i ddysgwyr ifanc?

 
9
OQ59121 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y personél o fewn awdurdodau lleol sy'n cael eu talu o dan reolau gwaith oddi ar y gyflogres IR35?

 
10
OQ59126 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Gogledd Cymru yn cael cyfran deg o wariant Llywodraeth Cymru?

 
11
OQ59134 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch sicrhau bod digon o arian ar gael i awdurdodau lleol er mwyn lliniaru effeithiau tywydd garw?

 
12
OQ59112 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Beth yw blaenoriaethau gwariant y Gweinidog ar gyfer Preseli Sir Benfro yn ystod y 12 mis nesaf?

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

1
OQ59118 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau ledled Canol De Cymru i gael mynediad at ofodau gwyrdd cymunedol?

 
2
OQ59133 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Sut fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi datblygu gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wrth i gyllid yr UE ddod i ben?

 
3
OQ59144 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu pobl ifanc i yrfaoedd ym myd ffermio ac amaeth?

 
4
OQ59130 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant wyau yn Nwyrain De Cymru?

 
5
OQ59136 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ar y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd?

 
6
OQ59111 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa effaith y mae costau byw cynyddol wedi'i chael ar les anifeiliaid?

 
7
OQ59110 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i wahardd rasio milgwn?

 
8
OQ59114 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella rheolaeth cŵn?

 
9
OQ59120 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Sut mae'r Gweinidog yn hybu datblygu gwledig yng Ngogledd Cymru?

 
10
OQ59124 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â gwariant y gronfa datblygu gwledig yng Nghanol De Cymru?

 
11
OQ59138 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol am y camau y gallant eu cymryd i wella lles anifeiliaid?

 
12
OQ59128 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella mynediad at fannau gwyrdd cymunedol trefol ledled Cymru?