Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/02/2022 i'w hateb ar 15/02/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau'r budd mwyaf posibl o fuddsoddiad y gronfa ffyniant gyffredin yn Nyffryn Clwyd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu nifer y prentisiaethau yn Islwyn?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflwyno'r cwricwlwm newydd yng Nghymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gefnogi cymunedau sy'n wynebu risg o lifogydd?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r sector lletygarwch yn ystod y pandemig?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd pan fydd awdurdodau lleol yn cyflwyno asesiadau anghenion tai annigonol?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau proses bontio teg a chyfiawn i sero net ar gyfer cymunedau gwledig?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerffili?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar Godi'r Gwastad?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ysgolion a cholegau'r 21ain ganrif?
Pa ystyriaeth mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i gynnwys gwlân fel rhan o'i chynlluniau twf economaidd ar gyfer Cymru wledig?