Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 08/01/2020 i'w hateb ar 15/01/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Addysg
A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Peilot Gwaith Chwarae Newyn Gwyliau?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am roi cydraddoldeb i gymwysterau TGAU Cymraeg a Saesneg mewn gofynion prifysgolion yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i weithredu argymhellion Adolygiad Reid?
A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir Gaerfyrddin?
A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad cyllido ysgolion yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y fframwaith Siarter Iaith?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo ysgolion i addysgu pwysigrwydd perthnasoedd iach?
A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau a gynhaliwyd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot ynghylch ailagor Ysgol Gynradd Godre’r Graig?
A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion pellach am y cyllid o £2m a ddarperir ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl mewn addysg bellach?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am absenoldeb mewn ysgolion yng Ngorllewin De Cymru?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pryd bydd y Gweinidog yn cyhoeddi gwerthusiad o gynllun canolfannau diagnosis cyflym Llywodraeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog yn eu cael gyda byrddau iechyd a phartneriaid cysylltiedig i wella’r broses o drosglwyddo cleifion o ysbytai yn ôl i leoliadau cymunedol?
Pa fewnbwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael i wella gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn methiant Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gyrraedd ei darged amser ymateb am y tro cyntaf mewn pedair blynedd?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella diagnosis canser yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr ymgyrch Dewis Doeth y gaeaf hwn?
A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth awtistiaeth ym Mlaenau Gwent?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yng ngwasanaeth iechyd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gofal deintyddol y GIG yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am reoleiddio e-sigaréts?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y meddygon teulu yng Nghymru?