Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/01/2019 i'w hateb ar 15/01/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ53224 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

Sut y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc drwy gydol tymor y Cynulliad hwn?

 
2
OAQ53165 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau diogelwch ym Maes Awyr Caerdydd?

 
3
OAQ53202 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch yng Nghymru?

 
4
OAQ53163 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fodloni'r angen am dai fforddiadwy?

 
5
OAQ53173 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi?

 
6
OAQ53167 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru?

 
7
OAQ53225 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd yn Islwyn?

 
8
OAQ53166 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy caredig?

 
9
OAQ53221 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros y 12 mis nesaf i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?

 
10
OAQ53218 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch a yw polisi Llywodraeth Cymru ar ffordd liniaru'r M4 wedi newid ers iddo ddechrau yn y rôl?

 
11
OAQ53182 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Flwyddyn Darganfod 2019?

 
12
OAQ53217 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfywio'r stryd fawr?

 
13
OAQ53219 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella gofal iechyd ar gyfer trigolion Dwyfor Meirionnydd?

 
14
OAQ53180 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu ymarfer meddygol yng Nghymru?

 
15
OAQ53223 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2019

Pa gynnydd y mae tasglu'r cymoedd wedi'i wneud o ran mynd i'r afael ag amddifadedd?