Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/12/2022 i'w hateb ar 14/12/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Economi

1
OQ58874 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cefnogaeth ar gyfer busnesau yng Nghanol De Cymru sy'n methu â chael neu fforddio yswiriant oherwydd risg parhaus o lifogydd?

 
2
OQ58888 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru'n ei chynnig i fusnesau yng Ngorllewin De Cymru yn sgil yr argyfwng costau byw a chostau gwneud busnes?

 
3
OQ58856 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad SA1 yn Abertawe?

 
4
OQ58889 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu cefnogi ymchwil a datblygu yng Nghymru yn sgil ansicrwydd parhaus o ran Horizon Ewrop?

 
5
OQ58883 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i godi'r cyfartaledd cyflog yn Nwyfor Meirionnydd?

 
6
OQ58880 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu cymorth i fusnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wrth i’r argyfwng costau byw ddwysáu?

 
7
OQ58886 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu sgiliau sero net arfaethedig y Llywodraeth?

 
8
OQ58879 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael am wneud Caerdydd yn gyrchfan dwristiaeth ddeniadol i ymwelwyr o Gymru ac ymwelwyr rhyngwladol?

 
9
OQ58872 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Beth yw asesiad diweddaraf y Gweinidog o ddatblygiad economaidd yn Nwyrain Casnewydd?

 
10
OQ58861 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r rhagolygon economaidd yng Nghymru?

 
11
OQ58865 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith streiciau ar economi Cymru?

 
12
OQ58871 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i helpu busnesau i leihau eu hallyriadau carbon?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OQ58875 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau cyswllt toresgyrn yng Nghymru?

 
2
OQ58882 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

A wnaiff y Gweinidog ddarparu diweddariad ar y cynllun iechyd menywod a'i berthnasedd i fenywod a merched yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
3
OQ58869 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o sefydlu ysgol feddygol Bangor?

 
4
OQ58866 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag amseroedd aros?

 
5
OQ58885 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth yng ngogledd Cymru?

 
6
OQ58868 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer cyhoeddi cynllun gweithredu gwasanaethau canser?

 
7
OQ58884 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau ambiwlans yn Nwyfor Meirionnydd?

 
8
OQ58876 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer pobl sy'n byw yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?

 
9
OQ58859 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau gofal iechyd hygyrch i bobl sydd â nam ar y synhwyrau?

 
10
OQ58860 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Beth yw strategaeth y Llywodraeth i sicrhau hygyrchedd ar gyfer pobl anabl yn y gwasanaeth iechyd?

 
11
OQ58864 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi gweithlu'r GIG y gaeaf hwn?

 
12
OQ58878 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc?