Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/12/2021 i'w hateb ar 14/12/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ57361 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddigonolrwydd amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd?

 
2
OQ57356 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â chyfraddau ailgylchu yng Nghaerdydd?

 
3
OQ57377 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ildio patentau brechlynnau COVID?

 
4
OQ57352 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith yr amrywiolyn Omicron o COVID-19 ar fusnesau lletygarwch yng Nghymru?

 
5
OQ57355 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i fynd i'r afael ag anfantais iechyd, cymdeithasol ac economaidd strwythurol mewn ardaloedd lle ceir amddifadedd acíwt a lluosog?

 
6
OQ57374 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella bywydau pobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor?

 
7
OQ57392 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaeth ffôn 111 yn y Gogledd?

 
8
OQ57390 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y lwfans cynhaliaeth addysgol?

 
9
OQ57383 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yn Nwyfor Meirionnydd?

 
10
OQ57360 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am benodi comisiynydd cyn-filwyr i Gymru?

 
11
OQ57388 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r heriau presennol o ran recriwtio i'r GIG yng Ngogledd Cymru?

 
12
OQ57389 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/12/2021

Faint o arbenigwyr symudedd a sefydlu sydd yng Nghymru i gefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg?