Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/11/2023 i'w hateb ar 14/11/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo treftadaeth ffydd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i beidio â chyhoeddi data arolwg y farchnad lafur ym mis Hydref?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau o ran prosesau ar gyfer olyniaeth a chynllunio gwaddol?
Pa drafodaethau sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf ynghylch penderfyniad y cyngor i breifateiddio y gwasanaethau gofal cartref oedd yn weddill o dan eu rheolaeth, heb edrych ar opsiynau amgen?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau canser y geg yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil Araith y Brenin yn ddiweddar?
Beth yw dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â mentrau cyllid preifat?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn tagfeydd traffig yn ne-ddwyrain Cymru ar drigolion lleol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am system Metro De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith bosibl ar Gymru yn sgil diddymu'r rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder, fel yr argymhellwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Cynghori ar Fudo?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant lled-ddargludyddion yng Nghymru?