Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/11/2018 i'w hateb ar 14/11/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

1
OAQ52916 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau faint o arian y gellir ei ddefnyddio o dan ffrydiau ariannu cyfalaf gwahanol ar gyfer ffordd liniaru'r M4?

 
2
OAQ52911 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau rhagolygon y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer poblogaeth oedran gweithio Cymru?

 
3
OAQ52899 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel ardrethi busnes yng Nghymru?

 
4
OAQ52894 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllidebol ar gyfer y portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol?

 
5
OAQ52909 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i ddarparu cyllid i atal llifogydd wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20?

 
6
OAQ52910 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn y dyfodol?

 
7
OAQ52896 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gronfa arloesi-i-arbed?

 
8
OAQ52917 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru o symud i reolau Sefydliad Masnach y Byd ar ôl Brexit?

 
9
OAQ52914 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth am effaith Brexit ar borthladd Caergybi?

 
10
OAQ52904 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am oblygiadau cyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer adnoddau refeniw a chyfalaf Llywodraeth Cymru?

 
11
OAQ52892 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu economaidd yng Ngogledd Cymru wrth ddyrannu cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?

 
12
OAQ52902 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 ym Mhowys?

 
13
OAQ52908 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i gyllid ar gyfer addysg bellach wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2019/20?

 
14
OAQ52923 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i amddiffyn menywod wrth ddyrannu'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20?

 
15
OAQ52924 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gogledd Cymru mewn perthynas â dyrannu arian ychwanegol sy'n debygol o ddod i Gymru yn dilyn cyhoeddiadau Llywodraeth y DU ar y gyllideb?

Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

1
OAQ52912 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb?

 
2
OAQ52897 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gysylltedd band-eang yn Arfon?

 
3
OAQ52905 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Sut y mae'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn trawsnewid y dirwedd ddigidol yn Islwyn?

 
4
OAQ52906 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi terfyn ar gaethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn ne-ddwyrain Cymru?

 
5
OAQ52915 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddariad am fynediad i fand eang yng Ngorllewin De Cymru?

 
6
OAQ52893 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r seilwaith digidol yn Sir Benfro?

 
7
OAQ52919 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am lefelau anghydraddoldeb yng Nghymru?

 
8
OAQ52920 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddarparu amlinelliad o fuddsoddiad diweddar ac arfaethedig mewn band eang?

 
9
OAQ52921 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig dros y 12 mis diwethaf?

 
10
OAQ52918 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Pa drafodaethau y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cyllid i gefnogi dysgwyr o leiafrifoedd ethnig ac sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

 
11
OAQ52898 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Pa fesurau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru yn 2019?

Comisiwn y Cynulliad

1
OAQ52922 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella’r broses o ddarlledu trafodion yn y Senedd?

 
2
OAQ52903 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella'r amgylchedd o amgylch y Cynulliad?

 
3
OAQ52925 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am arferion gweithio hyblyg sydd ar gael i staff y Comisiwn?