Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 02/11/2017 i'w hateb ar 14/11/2017

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ51299 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru?

 
2
OAQ51268 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae rhaglen cyni Llywodraeth y DU wedi'i chael yng Nghymru?

 
3
OAQ51298 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r cynnydd disgwyliedig mewn tlodi plant yng Nghymru o ganlyniad i'r newidiadau i fudd-daliadau lles?

 
4
OAQ51283 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl ardaloedd menter yng Nghymru yn y dyfodol?

 
5
OAQ51260 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ehangu cyfranogiad ac ymgysylltiad gwleidyddol yng Nghymru?

 
6
OAQ51297 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru tagfeydd cynyddol ar draffyrdd a chefnffyrdd yng Nghanol De Cymru?

 
7
OAQ51296 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch beicwyr yng Nghymru?

 
8
OAQ51264 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i ddenu a chadw meddygon teulu yng Ngogledd Cymru?

 
9
OAQ51291 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog datganiad ynglŷn â gwaith paratoi ar gyfer y broses o wobrwyo masnachfraint Cymru a'r Gororau?

 
10
OAQ51261 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau mai polisi Llywodraeth Cymru yw peidio â chaniatáu unrhyw ddatblygiadau cloddio glo brig newydd yng Nghymru?

 
11
OAQ51300 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Papur Gwyn ynghylch Bil arfaethedig y Gymraeg?

 
12
OAQ51273 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Nghwm Rhymni?

 
13
OAQ51301 (e) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ba more effeithiol y caiff byrddau iechyd Cymru eu rheoli?

 
14
OAQ51295 (w) Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

Pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i Lein Amlwch?

 
15
OAQ51288 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2017

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bosibl y DU yn gadael yr UE ar economi wledig Cymru?