Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/10/2025 i'w hateb ar 14/10/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag anghenion pobl y mae angen gofal cymdeithasol arnynt?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymysg plant?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ddeintyddion y GIG ledled Gorllewin De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau marw-enedigaethau a marwolaethau newyddenedigol?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith ei newidiadau arfaethedig i oriau agor tafarndai ar Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus gorau posib i'r boblogaeth y maent yn eu gwasanaethu?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddatblygiad Metro De Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael a rhestrau aros niwroamrywiaeth?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fforddiadwyedd a hygyrchedd darpariaeth gofal plant?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn darparu manteision i'r cymunedau lleol sy'n gartref iddynt?
Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda darparwyr gwasanaethau trên ynglŷn â phrisiau tocynnau yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar yr amserlen ar gyfer datganoli gwasanaethau prawf i Gymru?