Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/10/2020 i'w hateb ar 14/10/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y llifogydd diweddar yn ardal Pontargothi?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag archfarchnadoedd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheolau COVID-19?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ehangu garddwriaeth yng Nghymru?
Sut y bydd papur gwyn Llywodraeth Cymru ar Fil amaeth i Gymru yn cydnabod pwysigrwydd y sector i ddyfodol yr iaith Gymraeg?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lefelau llygredd aer yng Nghymru?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau y gall ffermwyr wneud y gorau o'r cyfleoedd a ddarperir i'r diwydiant ffermio ar ôl Brexit?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfleoedd sydd ganddi i adeiladu economi wyrddach?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau ynni yn Ynys Môn?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y trên a ddaeth oddi ar y cledrau a'r gollyngiadau diesel yn Llangennech ar y diwydiant casglu cocos lleol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio parthau cadwraeth morol yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn rheoli datblygiad ffermydd gwynt ar y tir?
Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod prosiectau datblygu gwledig a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig gwerth am arian?
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i ddileu digartrefedd yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae pandemig COVID-19 yn ei chael ar adnoddau llywodraeth leol?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio cyfraith lesddaliad?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y polisi datblygiadau Un Blaned?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio stoc tai Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i flociau o fflatiau ar draws Canol De Cymru y nodwyd bod ganddynt drafferthion o ran diogelwch tân?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i drigolion er mwyn lleihau costau ynni yn eu cartrefi?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gall partïon a chanddynt fuddiant lywio polisi cynllunio Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar fesurau i helpu pobl i fforddio cartrefi yn eu cymunedau?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau digartrefedd y gaeaf hwn?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer a rôl cynghorau cymuned?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch adolygiad o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol yng Nghymru?