Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/09/2021 i'w hateb ar 14/09/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gynlluniau’r Llywodraeth ynghylch tai cymdeithasol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru tlodi bwyd yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau diogelwch COVID-19 mewn ysgolion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynaliadwyedd yn yr economi wledig?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn diwygio sut y mae gofal cymdeithasol yn cael ei gyllido?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gynnydd bargen twf Gogledd Cymru?
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno i wella ansawdd aer yng Nghymru yn ystod tymor presennol y Senedd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu anifeiliaid cartref?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i adfywio canol trefi fel Pen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu adroddiad Comisiwn Burns?