Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/07/2021 i'w hateb ar 14/07/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd?
Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio technoleg arloesol i wella ansawdd aer yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch tân mewn fflatiau uchel yng Nghaerdydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gyda'r Gweinidog gan arweinwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r toriadau a wnaed i'r gyllideb taliad disgresiwn at gostau tai gan Lywodraeth y DU?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r cyfraniad y byddai morlyn llanw bae Abertawe yn ei wneud tuag at gyrraedd targedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau tai Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o allbwn carbon Llywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd cynllun cymorth i brynu Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddirywion i awdurdodau lleol am fethu â chwrdd â thargedau ailgylchu?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y meini prawf asesu ar gyfer dewis safleoedd i leoli prosiectau cynhyrchu ynni ar raddfa fawr?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun tai cymunedau Cymraeg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg yng Ngogledd Cymru?
Pa ddarpariaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghanol Caerdydd o gynllun adnewyddu a diwygio Llywodraeth Cymru dros wyliau'r haf?
Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i leihau'r amser ysgol a gaiff ei golli yn ystod pandemig COVID-19?
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymell colegau i gadw cyrsiau amaethyddol ac amgylcheddol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r pwyslais ar chwaraeon ac addysg gorfforol yn y cwricwlwm?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl consortia addysg rhanbarthol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am system swigod COVID-19 mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd tuag at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru yn Islwyn?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch ei weledigaeth ar gyfer addysg ôl-16?