Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/06/2023 i'w hateb ar 14/06/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y gweithwyr GIG sydd wedi cael mynediad at hyfforddiant drwy Academi Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am adeiladau gwag sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru ynghylch eu defnydd o bwerau benthyca i ariannu prosiectau cyfalaf?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr angen i ddyrannu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi trigolion bregus?
Beth yw asesiad cyfredol Llywodraeth Cymru o gynnydd o ran cydweithio rhwng awdurdodau lleol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen buddsoddi i arbed?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hwyluso'r gwaith o rannu arfer gorau a gwybodaeth rhwng cynghorau?
Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgysylltu â phreswylwyr ac yn cyfathrebu â hwy?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddarperir gan borthladdoedd rhydd?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer buddsoddiad cyfalaf?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws Trysorlys Cymru?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu a rheoli bywyd gwyllt ym Mro Morgannwg?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo bwyd a diod o Ogledd Cymru?
Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i sioeau amaethyddol yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu a gwella bywyd gwyllt ar hyd cyrsiau dŵr yng Ngorllewin De Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru a gaiff penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen â'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) ar Gymru?
Sut mae'r Gweinidog yn helpu busnesau amaethyddol i arallgyfeirio?
A wnaiff y Gweinidog ymateb i adroddiad diweddar Archwilio Cymru ar gyllid rhaglenni datblygu gwledig a ddyrannwyd sydd heb ei wario?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gadw primatiaid fel anifeiliaid anwes?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cynaliadwyedd bwyd yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau beth yw'r camau nesaf ar gyfer cyflwyno CCTV gorfodol mewn lladd-dai?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaharddiad ar gynaeafu cyllyll môr yn Llanfairfechan?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch twristiaeth mewn cymunedau gwledig?