Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/06/2022 i'w hateb ar 14/06/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ58189 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i inswleiddio'r tai mwyaf aneffeithlon o ran ynni?

 
2
OQ58183 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi bwyd ym Mlaenau Gwent?

 
3
OQ58196 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl yn Ne Clwyd yn sgil yr argyfwng costau byw presennol?

 
4
OQ58192 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar weithredu'r Strategaeth Ryngwladol i Gymru?

 
5
OQ58180 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd dynion?

 
6
OQ58190 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni disgyblion ysgolion cynradd yn Islwyn gyda chost y diwrnod ysgol?

 
7
OQ58193 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar bobl Ogwr?

 
8
OQ58160 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector ynni alltraeth?

 
9
OQ58195 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y pwysau sy'n wynebu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar hyn o bryd?

 
10
OQ58175 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o gludiant i ddysgwyr?

 
11
OQ58191 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar bolisi caffael tir y Llywodraeth?

 
12
OQ58158 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2022

Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i godi’r gwastad o ran economi Cymru?