Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/06/2022 i'w hateb ar 14/06/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i inswleiddio'r tai mwyaf aneffeithlon o ran ynni?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi bwyd ym Mlaenau Gwent?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i bobl yn Ne Clwyd yn sgil yr argyfwng costau byw presennol?
Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar weithredu'r Strategaeth Ryngwladol i Gymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd dynion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni disgyblion ysgolion cynradd yn Islwyn gyda chost y diwrnod ysgol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar bobl Ogwr?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector ynni alltraeth?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y pwysau sy'n wynebu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar hyn o bryd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o gludiant i ddysgwyr?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar bolisi caffael tir y Llywodraeth?
Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i godi’r gwastad o ran economi Cymru?