Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/05/2025 i'w hateb ar 14/05/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y nifer o gartrefi gwag yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am brosiectau adfywio yn Sir Benfro?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd ei chynllun Cartrefi Clyd Nyth?
Pa asesiad ma'r Ysgrifenydd Cabinet wedi ei wneud o gyfraddau rhent yn y sector breifat?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau nad oes rhaid i bobl ag anableddau fyw mewn ysbytai oherwydd bod eu cartrefi yn anaddas ar gyfer addasiadau tai neu oherwydd bod prinder tai amgen sydd wedi'u haddasu ac sy'n hygyrch?
Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i'r angen i ariannu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd wrth benderfynu ar gyllidebau awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith polisïau Llywodraeth y DU ar gynllun cartrefi clyd Llywodraeth Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y grantiau sydd ar gael ar gyfer addasiadau preswyl i bobl anabl?
Pa gyngor a chanllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol ynglŷn â darparu cyfleusterau cyhoeddus?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd y cynllun cartrefi clyd?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i ddod a cholegau addysg bellach yn ôl o dan reolaeth y sector gyhoeddus?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ysgolion preifat ac annibynnol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo manteision dysgu yn yr awyr agored?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau anghenion dysgu ychwanegol Llywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r graddau y mae ysgolion yn dibynnu ar staff asiantaeth?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ynghylch darpariaeth addysg gorfforol mewn ysgolion?
Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i ysgolion yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar y diffiniad o fenyw?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion i fynd i'r afael ag absenoldeb disgyblion?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd y polisi o ddirwyo rhieni plant nad ydynt yn mynd i'r ysgol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro lles disgyblion sy'n cael eu haddysg gartref?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo dewis i rhieni a dysgwyr o ran yr ysgolion y gall disgyblion fynd iddynt?