Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/05/2024 i'w hateb ar 14/05/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ61115 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gofal iechyd yng Ngogledd Cymru?

 
2
OQ61121 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y plant oedran ysgol gynradd sy'n gallu nofio?

 
3
OQ61090 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

Beth yw polisi'r Llywodraeth ar orsafoedd trydan newydd sy’n cael eu pweru gan nwy yn Arfon?

 
4
OQ61109 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r rhesymau pam nad oes Gweinidog penodol ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd?

 
5
OQ61106 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

Pa effaith y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei chael o ran meithrin ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion?

 
6
OQ61114 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru?

 
7
OQ61089 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth gofal cenedlaethol?

 
8
OQ61118 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau ei gyfarfod â Tata ym Mumbai?

 
9
OQ61117 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cymorth hyfforddi swyddi ar gael ledled Cymru, gan gynnwys drwy holl raglenni cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru?

 
10
OQ61104 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed a'r gwaith sydd i'w wneud tuag at ddatblygu cynllun iechyd menywod Llywodraeth Cymru?

 
11
OQ61119 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru ynghylch gwasanaethau rhywedd yng Nghymru?

 
12
OQ61120 (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i gytuno ar gyllid trawsffiniol i ddiogelu bywyd diwylliannol Cymru?