Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/03/2023 i'w hateb ar 14/03/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa ystyriaeth roddodd Llywodraeth Cymru i Fil Diwygio Cydnabod Rhywedd yr Alban wrth greu'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i’r adolygiad ffyrdd?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddarparu cyfleusterau chwaraeon modern ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant ynni adnewyddadwy?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gyfyngu ar faint o amser y mae ambiwlansys yn cael eu gorfodi i aros mewn ciwiau y tu allan i ysbytai?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran cyflwyno'r siarter gofalwyr di-dâl?
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gweithwyr meddygol proffesiynol yn deall yr anawsterau y mae llawer o gleifion yn eu hwynebu yn dilyn defnyddio rhwyll mewn llawdriniaethau?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r modd o gael gafael ar ddeintyddiaeth y GIG yng Ngorllewin Clwyd?
Sut fydd Llywodraeth Cymru yn helpu datblygu potensial economaidd cymoedd de Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei darparu yn effeithiol yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau llygredd afon yng Nghanol De Cymru?
Y Gweinidog Newid Hinsawdd
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar effaith arllwysiad carthion ar ansawdd y dŵr yn Llyn Padarn?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau gostyngiad mewn sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu elusennau sy'n darparu gwasanaethau cymorth tai a digartrefedd?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i leihau lefelau digartrefedd yn Nwyrain De Cymru?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran ailstocio coedwigaeth a choetir?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud trafnidiaeth i bobl sy'n dysgu mewn sefydliadau addysg uwch yn fwy hygyrch a fforddiadwy?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gael gafael ar gronfa diogelwch adeiladau Cymru?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod hawliau lesddeiliaid yng Ngorllewin De Cymru?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi dysgwyr yng Nghanol De Cymru gyda chost y diwrnod ysgol?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r effaith y mae costau byw cynyddol yn ei gael ar gynlluniau ar gyfer ysgolion yr 21ain ganrif?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth anghenion dysgu ychwanegol yn Sir Drefaldwyn?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o rôl sgiliau adeiladu fel rhan o gwricwlwm amgen ar gyfer disgyblion ysgol?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol yn y sector addysg uwch yng Ngorllewin De Cymru?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth Cymru ar safonau addysgol?
Pa ystyriaeth mae'r Gweinidog wedi ei roi i gydnabod cyfraniad Eileen a Trefor Beasley i'r frwydr dros hawliau i wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu myfyrwyr gyda phwysau costau byw?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleoedd sydd ar gael i gael mynediad i addysg ôl-16 oed cyfrwng Cymraeg?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hwyluso trafodaethau rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion yn ystod y cyfnod hwn o galedi ariannol difrifol?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi disgyblion ysgolion byddar?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella canlyniadau addysgol yng Ngogledd Cymru?