Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/03/2018 i'w hateb ar 14/03/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau rhewmatoleg yng Nghanol De Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o sepsis ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran datblygu cynlluniau peilot Buurtzorg ar gyfer gofal nyrsio yn y gymdogaeth yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau adsefydlu cyffuriau ac alcohol yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am drosglwyddo cleifion y GIG at y lleoliad gofal mwyaf priodol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys ym Mhowys?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau deintyddol yng Nhanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i'r gwasanaeth iechyd yn Sir Benfro ar gyfer y 12 mis nesaf?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran canolfan rhewmatoleg pediatrig amlddisgyblaethol yn ne Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lwyddiant ei hymdrechion i recriwtio mwy o feddygon i Gymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau endometriosis i gleifion yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion iechyd personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau rhewmatoleg pediatrig yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yng ngharchardai Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru?
Cwnsler Cyffredinol
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gweithredu deddfwriaeth llygredd aer?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi’i roi ynglŷn â newid y gyfraith yng Nghymru i ganiatáu i fenywod gymryd tabledi erthylu yn eu cartrefi?
Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â gallu Llywodraeth Cymru i ddefnyddio adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 i gyflwyno gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau?
Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â sicrhau dinasyddiaeth Ewropeaidd i bobl yng Nghymru yn dilyn Brexit?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith cytundeb drafft y Comisiwn Ewropeaidd ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar Gymru?
Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'i chontract economaidd newydd?