Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/02/2023 i'w hateb ar 14/02/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl ifanc?
Pa bwysau ychwanegol y mae'r argyfwng costau byw yn ei roi ar y GIG mewn perthynas â phobl â chyflyrau iechyd cymhleth sy'n byw gartref?
Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i Fil Diwygio Cydnabod Rhywedd yr Alban wrth greu Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi lles trigolion Canol De Cymru sy'n parhau i wynebu perygl o lifogydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol cyllid ffyniant bro?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n amddiffyn trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy rhag syrthio i dlodi tanwydd y gaeaf hwn?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yn Aberconwy?
Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllideb y DU ym mis Mawrth?
Pa effaith y mae'r fframwaith adrodd ar lwybrau gofal wedi'i chael yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ariannu gwasanaethau bysiau?
Pa gymorth ariannol y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig i deuluoedd gyda phlant ag anghenion iechyd dwys yn sgil yr argyfwng costau byw?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb y Llywodraeth i'r cynnydd sylweddol presennol ym miliau aelwydydd?