Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/02/2018 i'w hateb ar 14/02/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

1
OAQ51738 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol swyddfeydd Llywodraeth Cymru sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd?

 
2
OAQ51758 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau rhynglywodraethol diweddar am berthynas Cymru gyda'r UE yn y dyfodol?

 
3
OAQ51763 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y broses o ddatblygu isadeiledd trydan yn Ynys Môn?

 
4
OAQ51762 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro telerau ac amodau cronfa pontio'r UE o £50 miliwn?

 
5
OAQ51740 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r dreth gwarediadau tirlenwi?

 
6
OAQ51757 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

Faint o gyllid ychwanegol sydd ei angen i dalu am ffordd liniaru'r M4?

 
7
OAQ51756 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd bargen ddinesig Bae Abertawe?

 
8
OAQ51753 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwerau benthyca newydd Llywodraeth Cymru?

 
9
OAQ51759 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol bargen ddinesig Bae Abertawe?

 
10
OAQ51768 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru?

 
11
OAQ51769 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU parthed effaith y gronfa ffyniant a rennir arfaethedig ar Ogledd Cymru?

 
12
OAQ51746 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygiadau mewn perthynas â bargen ddinesig Bae Abertawe?

 
13
OAQ51752 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y fformiwla ar gyfer cyfrifo ardrethi busnes?

 
14
OAQ51749 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

Pa ddarpariaeth ariannol ychwanegol a wnaed i'r portffolio ynni, cynllunio a materion gwledig i gefnogi parciau cenedlaethol yng Nghymru?

 
15
OAQ51761 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno achrediad cyflog byw go iawn i gyflogwyr o ganlyniad i'r cod ymarfer ar gaffael moesegol?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

1
OAQ51755 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi amlinelliad o'r pwerau gorfodi a ddirprwywyd o Lywodraeth Cymru i Gyfoeth Naturiol Cymru?

 
2
OAQ51744 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu symleiddio'r gyfraith gynllunio yng Nghymru i'w gwneud yn haws i'w deall?

 
3
OAQ51764 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefel y cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol ym maes datblygu lleol a chynllunio?

 
4
OAQ51750 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr effaith y mae mesuryddion deallus yn ei chael ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru?

 
5
OAQ51760 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol yn dilyn y penderfyniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru i roi trwydded weithredu ar gyfer y datblygiad Biomass UK No. 2 yn y Barri?

 
6
OAQ51754 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r adroddiad, The State of Britain's Hedgehogs Report 2018?

 
7
OAQ51751 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y sector bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru?

 
8
OAQ51737 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael i ymchwilio i welyau môr oddi ar arfordir Cymru?

 
9
OAQ51743 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad cymunedol at fannau gwyrdd?

 
10
OAQ51767 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Bolisi Cynllunio Cymru?

 
11
OAQ51765 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cydweithrediad trawsffiniol ar gynllunio rhwng awdurdodau lleol?

 
12
OAQ51739 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau gwella hawliau tramwy?

 
13
OAQ51770 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argymhellion Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer is-ddeddfau newydd rheoli dal pysgod sydd wedi eu cyflwyno i'w cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru?