Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 07/01/2026 i'w hateb ar 14/01/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

1
OQ63637 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda National Highways ynglŷn â'r gwaith parhaus ar y ddwy bont dros yr Hafren?

 
2
OQ63663 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn ag atgyfeirio cleifion o Ogledd Cymru i Ysbyty Orthopedig Robert Jones ac Agnes Hunt yng Ngobowen?

 
3
OQ63631 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau nad yw cyn-filwyr yn wynebu anfanteision wrth gael mynediad at wasanaethau'r GIG?

 
4
OQ63661 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o ddiogelwch yr A470?

 
5
OQ63639 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddiogelu gwasanaethau bysiau yng Ngogledd Cymru?

 
6
OQ63653 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar rôl Maes Awyr Caerdydd ym mholisi hedfan Llywodraeth Cymru?

 
7
OQ63647 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys i wella diogelwch cerddwyr, gan gynnwys pont droed newydd ar bont Caersŵs?

 
8
OQ63654 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau bysiau a threnau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
9
OQ63641 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru ar Fil Rheilffyrdd Llywodraeth y DU a’i oblygiadau i Gymru?

 
10
OQ63651 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllid sydd wedi ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau gwella rheilffyrdd nad ydynt wedi'u datganoli?

 
11
OQ63665 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni'r gwelliannau diogelwch a nodwyd gan Asiant Cefnffyrdd De Cymru ar gyfer ffordd osgoi Rhaglan yr A40, a phryd fydd y mesurau hynny'n cael eu gweithredu?

 
12
OQ63629 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer uwchraddio Gorsaf Caerdydd Canolog pan nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

1
OQ63657 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi yn Nwyrain De Cymru?

 
2
OQ63640 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tlodi yn Nwyrain De Cymru?

 
3
OQ63655 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyfraddau tlodi tanwydd yng Nghymru?

 
4
OQ63648 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu drwy'r cynllun hawliau pobl anabl?

 
5
OQ63630 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw ei pholisïau ar geiswyr lloches a ffoaduriaid yn annog pobl i ddod i mewn i'r DU drwy ddulliau anghyfreithlon?

 
6
OQ63662 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Pa gyllid mae cymunedau yn Islwyn wedi'i gael gan y Loteri Genedlaethol dros y pum mlynedd diwethaf?

 
7
OQ63642 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Ydy Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymgorffori’r hawl i fwyd yng nghyfraith Cymru?

 
8
OQ63645 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cyfleusterau cymunedol yng nghanolbarth Cymru?

 
9
OQ63658 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol?

 
10
OQ63660 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yng Nghaerffili?

 
11
OQ63656 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a heddluoedd i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn lladradau o gerbydau ar draws Gorllewin De Cymru?

 
12
OQ63652 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl hŷn yng Ngogledd Cymru?

Comisiwn y Senedd

1
OQ63650 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Beth yw polisi'r Comisiwn ar ddefnyddio cytundebau peidio â datgelu?

 
2
OQ63634 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/01/2026

Pa gefnogaeth mae'r Comisiwn yn ei ddarparu i Grwpiau Trawsbleidiol?